
Rupert Vereker
Mae Rupert wedi bod yn gweithio ym maes marchnata gydol ei yrfa, gan droi at gerddoriaeth o 2004 ymlaen, pan gymerodd DIY fel blog stafell wely a’i dywys i fod yn gwmni marchnata, cyfryngau a digwyddiadau cerddoriaeth byd-eang, gyda’r teitl annibynnol blaenllaw – DIY Magazine – wrth ei wraidd, sydd bellach â dros miliwn o ddilynwyr ledled y byd.
Ochr yn ochr â rheoli’r busnes, fe sy’n arwain ar bartneriaethau cerddoriaeth a marchnata ar gyfer cyfryngau traws-blatfform @DIYmagazine, gan gynnig datrysiadau marchnata i labeli, gwyliau, hyrwyddwyr teithiau, brandiau defnyddwyr, a chyrff addysg a diwydiant cerddoriaeth, gan obeithio cysylltu â dilynwyr GenZ a Mileniaid sy’n angerddol am ganfod cerddoriaeth. Un rhan allweddol o’n hethos yw helpu gyrfaoedd artistiaid newydd a’r rhai sy’n awyddus i fynd i’r diwydiant cerddoriaeth yn y dyfodol.
Er mai yn Llundain ydyn ni, mae ganddon ni gynulleidfa gref yn yr UDA, Canada, Awstralia a thir mawr Ewrop.