
Emily Pilbeam
Emily Pilbeam sy’n cyflwyno BBC Introducing Mixtape ar 6 Music ac mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno sioe Introducing Leeds & Sheffield y BBC. Mae Emily’n llenwi sedd Chris Hawkins a Huw Stephens ar 6 Music yn rheolaidd, ac mae hi wedi cyflwyno ambell i sioe ar Radio 1 hefyd. Mae Emily hefyd yn DJ ac wedi gwneud sawl swydd arall yn y diwydiant cerddoriaeth dros y degawd diwethaf.