Cyhoeddi’r Don Gyntaf o 57 o Artistiaid ar gyfer Sŵn 2024
Rydyn ni’n falch iawn o rannu’r newyddion cyffrous am y don gyntaf o artistiaid eleni. Mae’r arlwy’n cynnwys amrywiaeth anhygoel o ddoniau. Bydd Wu-Lu yn dod â’i gyfuniad unigryw o grynj, pync, a hip-hop i strydoedd Caerdydd. Bydd English Teacher yn eich swyno gyda’u cymysgedd o emo-roc, pop breuddwydiol, a seicedelia. Bydd Hannah Diamond, tywysoges bop wreiddiol y rhyngrwyd ac aelod sefydlu PC Music, yn taflu goleuni ar fod yn ferch ac enwogrwydd. Bydd Porij yn ailddiffinio cerddoriaeth ddawns gyda’u cymysgedd o gerddoriaeth garej Prydeinig, drwm a bas, a cherddoriaeth tŷ dwfn.
Rydyn ni hefyd yn ymroddedig i lwyfannu doniau lleol. Bydd brodorion Caerdydd Buzzard Buzzard Buzzard yn rhannu eu roc-garej arswydus a’u synhwyrau pop. Mae’r indi-rocwyr Cymraeg Adwaith, synau pop-rêf harmonig Das Koolies (sy’n cynnwys aelodau o Super Furry Animals), a’r sêr newydd Half Happy yn barod i’ch syfrdanu. Bydd seicedelia hiraethus a melodïau melfedaidd Pys Melyn, a gafodd eu henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, hefyd yn rhan o’r arlwy eleni, yn ogystal â’r rocwyr o Aberystwyth, Mellt, a’r rhyfeddod pop amgen Hana Lili.
Am y tro cyntaf ers cyn y pandemig, bydd Gŵyl Sŵn yn ŵyl aml-safle dros y tridiau cyfan. Ddydd Iau, 17 Hydref, byddwn ni’n llenwi Stryd Womanby gyda phum llwyfan yng Nghlwb Ifor Bach, Tiny Rebel, The Moon, a Fuel. Ddydd Gwener a ddydd Sadwrn bydd yr ŵyl yn ymestyn drwy ganol y brifddinas, gyda llwyfannau yn y Tramshed, Jacobs Antique Market, Cornerstone, a Porter’s (dydd Sadwrn yn unig). Mae’r cyhoeddiad cerddoriaeth blaenllaw DIY wedi ymuno â’r ŵyl fel partner eleni, gan gymryd yr awenau i guradu un llwyfan.
Meddai Adam Williams, ein rheolwr byw: “Dw i wrth fy modd o gael rhannu’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer Gŵyl Sŵn 2024 o’r diwedd. Bydd y digwyddiad ychydig yn wahanol eleni; yn rhedeg o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, gyda phob diwrnod yn aml-safle, a dros 130 o artistiaid yn perfformio ar draws 11 llwyfan. Rydyn ni hefyd wrthi’n cadarnhau gwesteion cyffrous, partneriaid llwyfan, a’n cynhadledd i’r diwydiant, fydd yn dychwelyd eleni – byddwn ni’n rhannu’r manylion yma’n fuan. Yn bwysicaf oll, bydd y digwyddiad eleni yn bartner allweddol yng Ngŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sef dathliad o gerddoriaeth ledled y ddinas dros dair wythnos, a fydd yn digwydd am y tro cyntaf yn yr hydref.”
Bydd yr ŵyl yn fwy hygyrch nag erioed eleni, gyda chynlluniau talu, tocynnau consesiwn, a mwy o gyfleoedd i’r gymuned gymryd rhan drwy ein rhaglen wirfoddoli a’n cynllun ceisio i chwarae newydd. Mae’r tocynnau ar werth i’r cyhoedd nawr, ac mae’n haws nag erioed ymuno yn yr hwyl.
Mae ganddon ni hanes cyfoethog o groesawu enwau mwyaf sîn gerddoriaeth gyfoes Cymru, fel Gruff Rhys, Gwenno, a Cate Le Bon, a chefnogi sêr y dyfodol hefyd fel Sam Fender, Wolf Alice, Disclosure a Ben Howard. Eleni, rydyn ni’n parhau â’r traddodiad yma gyda rhestr o enwau sy’n sicr o fod yn rhai bythgofiadwy. Ymunwch â ni ar gyfer tridiau o gerddoriaeth, cymuned, a dathliad.