Conchur-White

Mae gwaith solo Conchúr White yn eginol a noeth, gyda ansawdd iasol a chain gyda’i lais yn pigo’r melodi ag yn llifo’n mewn i falsetto bob hyn a hyn. Cerddoriaeth prydferth a tenau sy’n cael ei gynnig a mae’n hawdd deall pam bod gymaint yn cael eu syfrdanu ganddo. Mae White wedi bod yn teithio i Efrog Newydd yn ddiweddar i weithio gyda Kevin McMahon (Frightened Rabbit, Real Estate) sy’n awgrymu bod e’n barod i ddychwelyd gyda band llawn a mwy o gerddoriaeth. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…