Comet-is-Coming

Cyfarfod epig, rhyngblanedol rhwng chwaraeydd sacsoffon Shabaka Hutching o’r eicon jazz modern ‘Sons of Kemet‘ a Dan a Max o Soccer96 sydd ar y synth a’r dryms. Mae The Comet Is Coming wedi bod yn dod a’r parti dawnsio rhyngblanedol i’n clustiau ers 2013. Yn gawl gwallgof o distorted funk, jazz a electronica gwyllt, mae’r albym ddiweddaraf ‘Trust in the Life Force of the Deep Mystery‘ ar y sbectrwm o synau sydd tu hwnt i’r byd yma, sy’n dangos pam eu bod yn fand byw anghredadwy, creulon a chwyldroadol.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…