Charlotte-Adigery

Mae EP newydd y cerddor Belg-Carabiaidd – Charlotte Adigery ‘Zandoli’ yn profi bod gan y ferch dalentog yma ffordd arbennig o ddweud stori. Weithiau’n hollol wirion, weithiau’n hollol ddifrifol, mae meddwl Adigery yn crwydro a chwyrlio o gwmpas straeon a chwedlau abswrd, teimladwy a llawn hwyl. Wedi’i dysgu gan ei mam (a gafodd ei geni yn Martinique) mae perthynas y rhythm a’r gerddoriaeth a phwysigrwydd hiwmor – yn sicrhau fod Adigery yn gerddor argyhoeddiadol ifanc sy’n gallu canu am fadfalloedd mewn un cân a latex yn yr un nesaf.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…