Casi

Yn dilyn rhyddhau eu EP diweddaraf ‘Sunflower Seeds’ mae Casi Wyn wedi creu gofod diddorol a hollol unigryw rhwng yr hen a’r newydd yn pontio chwedlau Celtaidd, caneuon traddodiadol Cymreig â churiadau electronig miniog.  Wedi’i hysbrydoli ar ôl dychwelyd yn ôl o Lundain i’w mamwlad – Cymru, mae’r gerddoriaeth yn gorlifo mewn llinynnau swynol a lleisiau hyfryd, hudolus ac estronaidd sy’n dod a mynyddoedd Eryri i’r llawr ddawnsio. 

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…