Big-Joanie

Band pync, ffeinyddol, groenddu yw Big Joanie. Ma’ nhw fel The Ronettes wedi’i hidyllu trwy sîn DIY yr 80au a Riot Grrrl y 90au, gyda chydig bach o dashikis wedi’i daflu ar eu pennau.

Ffurfiodd Big Joanie yn Llundain yn Haf 2013 er mwyn perfformio yn First Times ac yn 2016, rhyddhaodd y band sengl wych o’r enw ‘Crooked Room’ ar eu label ei hun. Erbyn hyn yn un o selogion y sin pync DIY yn Llundain, maent wedi bod yn teithio o gwmpas Ewrop yn cefnogi bandiau fel Downtown Boys, Shopping, Parquet Courts a llawer mwy.

Ymunwch a chylchlythyr Sŵn islaw…