
Prosiect unigol Dylan Hughes yw Ynys, sydd wedi’i ysbrydoli gan ystod o synau – o Jazz Ethiopia i bobl fel Elliot Smith hyd yn oed – i greu sain mwy pop-gwerinaidd sy’n ei osod ar wahân i gerddorion eraill y sîn llawr gwlad yng Nghymru. Cafodd ei albwm ‘Dosbarth Nos’ y llynedd ei henwebu am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, yn ogystal â chael llwyth o glod gan bobl fel God is in the TV.
