Y Dail
Y Dail yw prosiect Huw Griffiths o Bontypridd. Gan gyfuno bachau cofiadwy â geiriau ffraeth, mae ei gyfansoddi caneuon heintus yn adlais o artistiaid fel Brian Wilson, Prefab Sprout a’r Furries. A dweud y gwir, allwn ni ddim dychmygu unrhyw un yn peidio mwynhau, felly dewch â’ch ffrind gorau, eich nain, eich cath, a’ch postmon a pharatowch i glicio’ch bysedd at roc pop anorchfygol Y Dail.