
Wedi’u henwi fel band i gadw llygad arnyn nhw gan Rolling Stone eleni, dydy hi ddim yn anodd gweld pam mae World News yn denu tipyn o sylw ar hyn o bryd. Mae eu sain eang sy’n pendilio rhwng roc amgen a seicedelig yn dweud y cyfan. Maen nhw’n cyfuno riffs gitâr atmosfferig gyda melodïau di-hid, hyfryd.
Mae eu sengl ddiweddaraf ‘Sidestep’ yn ein hatgoffa o Primal Scream yng nghyfnod ‘Country Girl’, cyn troi i diriogaeth hyfryd o ryfedd. Maen nhw eisoes wedi cefnogi Doves ac Editors, ac mae eu caneuon fel petaen nhw wedi’u creu ar y gyfer llwyfannau mawr.
Byddwn ni’n gegagored wrth glywed synau enfawr World News yng Ngŵyl Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: The Flaming Lips, Animal Collective, Primal Scream
