Willie J Healey
Mae Willie J Healy yn cyfuno elfennau o roc indie, gwerin, a phop amgen i greu sain swynol sy’n cael ei ddiffinio gan ei lais nodedig. Gan archwilio cariad, hunanfyfyrdod, a phrofiadau chwerwfelys o fod yn oedolyn ifanc, mae ei berfformiadau twymgalon a’i allu i greu cysylltiadau agos-atoch â’i gynulleidfa wedi ennyn cydnabyddiaeth gan gyd-gerddorion fel Alex Turner, Joe Talbot, Jamie T, ac Orlando Weeks. Gyda llais llawn enaid, a chyfuniad o ddylanwadau ffync, soul, ac R&B y 70au, mae Willie J Healy yn parhau i ennill ffans ac ehangu ei orwelion artistig. Os nad ydych chi’n ffans eto, mi fyddwch chi wedi’r sioe yn Sŵn eleni.