
Disgo? Ôl-Pync? Ceffylau? Mae’r pedwarawd yma o Gaerdydd bob amser wedi cynnig mwy o gwestiynau nag atebion, ond yn gwneud iawn am hynny gyda sain trendi sy’n chwarae ar hiraeth indi, ond sydd eto’n canfod ffyrdd unigryw o ddisgleirio. Mae eu sengl gyntaf, ‘Far Away, So Close’, yn chwarae ar ddiwylliant Efrog Newydd y 00au, gan ganfod pocedi o ysbrydoliaeth o’u bywydau personol fel myfyrwyr yng Nghaerdydd. Dyma un o fandiau poetha’r ddinas ar hyn o bryd, ac allwn ni ddim argymell eu set yn Sŵn ddigon.
