
Gan ddechrau fel prosiect stafell wely ar GarageBand a arweiniodd at gytundeb recordio gyda Partisan, mae Tasmin Stephens wedi dod yn seren sydyn ym maes Shoegaze, wrth greu cerddoriaeth sy’n orlawn o’r un uchelgais â The Cure a The Strokes, gan gadw ymagwedd artistig a dull cynhyrchu DIY â thraed ar y ddaear. Gyda phresenoldeb cwbl agored ar y cyfryngau cymdeithasol a phersonoliaeth ddoniol a chymdeithasol, mae gan Tasmin bopeth sydd ei angen ar seren roc. Mae’n gallu cefnogi hynny gyda thiwns anhygoel hefyd, gan gynnwys y sengl ddiweddar ‘Call U Back’, sy’n mynegi rhwystredigaeth iasol tuag at rywun nad ydyn nhw eisiau bod gyda chi. Fydd hi ddim yn hir tan y bydd pobl yn brolio am fod wedi gweld TTSSFU cyn iddi ddod yn enwog, felly cofiwch ei dal yn Sŵn 2025.
