
Ar ôl chwarae yn Sŵn yn 2025, roedd rhaid i ni ddod â Tokomololo ’nôl i’r ŵyl eleni. Mae’n cymysgu geiriau Cymraeg gydag electroneg i greu sain myfyriol sy’n eich trochi. Gydag Ynys Môn yn gartre iddo, mae wedi bod yn gwneud recordiadau maes o Fynyddoedd Eryri gerllaw. Fe wnaeth hyd yn oed gerdded i fyny mynydd i ryddhau ei sengl ‘Deffro’.
Mae llawer o’i waith wedi’i amgylchynu gan fyd natur, sy’n mynd yn berffaith gyda’r thema o ganfod cysur mewn unigedd, sydd i’w gweld drwy gydol ei waith. Mae ei set fyw yn gymysgedd benfeddwol o lŵps byw a llais wedi’i addasu, gyda synau electronig sy’n eich helpu i gyrraedd lefel uwch.
Rydyn ni’n edrych ymlaen i ail rownd Tokomololo yn Sŵn eleni, mewn set sy’n debygol o fod yn gyfareddol.
I’r rhai sy’n hoff o: Mount Kimbie, Four Tet, Bonobo
