
Gan godi o’r wledd drawiadol o gerddoriaeth Ddawns sydd ym Mryste, mae Tlya X An yn dod i’r amlwg gyda chynnig newydd a ffres ar Hyper-Pop gyda synnwyr clir o’i hunaniaeth a’i sain. Eleni, fe ryddhaodd gywaith gyda Scaler ar ffurf ‘Evolve’, lle mae Tyla’n cyflawni ei cherddoriaeth dywyllaf eto, gan roi tro newydd i’w cherddoriaeth Hyper-Pop arferol. Dyma artist sy’n barod i esgyn i rywbeth mwy, ac sydd â’r uchelgais i adael marc diwylliannol dyfnach nag sydd ganddi ar hyn o bryd.
