
Yn diferu â hiraeth Indi Slebogaidd, mae’r efeilliaid Omar a Jamal yn creu rap-pop-tecno hypnotig, sydd wedi’u helpu i ddenu dilynwyr ymroddedig newydd ar y rhyngrwyd. Mae eu traciau diweddaraf, ‘Tumeric’ a ‘Mattress’, yn arddangos ystod drawiadol o driciau’r band, wrth iddyn nhw newid yn llyfn rhwng steiliau yn y ffyrdd mwyaf trendi. Mae swagr ac egni pur i’w weld gan y ddeuawd newydd gyffrous yma.
