
Yn un o’r bandiau newydd gorau o Fryste, mae gan y criw o bedwar egni tebyg i The Fall a The Monochrome Set, gan gyfuno themâu Ôl-Pync traddodiadol gyda senarios ac emosiynau modern. Mae eu trac diweddaraf ‘CHRS PCKHM’ yn enghraifft wych o’u geiriau anarferol a’u hegni diderfyn. Dydyn nhw heb chwarae yng Nghaerdydd ers y Clwb All Dayer ym mis Mai, a bydd eu set yn Sŵn yn un werth ei dal.
