
Mae The Gentle Good, sef Gareth Bonello, bellach yn act werin fawr ei bri yma yng Nghymru, gan gyfuno ei alawon cadarn gyda’i allu hynod ar y gitâr i greu sain dilys a chyfoethog. Ar ôl ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017 gyda ‘Ruins/Adfeilion’ a chyrraedd rhestr 5 Albwm Gwerin y Flwyddyn y Guardian, hawdd yw deall llwyddiant Bonello wrth weld ei set fyw ragorol.
