
Mae’r band pync The Dogs yn swnio’n hollol wallgo, ond mewn ffordd dda. Rhyddhaon nhw EP o’r enw ‘The Only Band called The Dogs’ fis Mawrth, cyfeiriad chwareus at y nifer fawr o fandiau sydd wedi galw’u hunain yn The Dogs. Ond un peth sy’n sicr, mae’r criw yma’n gwybod eu stwff.
Gyda digon o eiriau caneuon hunan-ddilornus a doniol, mae The Dogs yn cynnig rhywbeth difyr. Yn 2024, fe wnaethon nhw ryddhau prosiect o’r enw ‘Total Dogshit’, sy’n addas o ffrwydrol.
Dewch i ymgolli yn anhrefn chwyslyd The Dogs gyda ni yng Ngŵyl Swn fis Hydref.
I’r rhai sy’n hoff o: Getdown Services, Fat Dog, Viagra Boys
