
Gyda sain R&B hypnotig a enillodd slot gydag Aleighcia Scott iddyn nhw, yn ogystal â dyfarniad Cronfa Lansio Gorwelion y BBC, mae Source gyda’r enwau newydd mwyaf ffres ar y sîn yng Nghaerdydd; gyda sain garismatig ac eneidiol sy’n llyfn ac yn hawdd ar y clustiau. Mae’r un peth yn wir am eu set fyw hefyd, ac fe gawson ni gipolwg ohoni ar ddechrau’r flwyddyn gyda sesiwn fyw ddisglair gyda Mace The Great.
