
Fel y siwpyr-grŵp newydd poethaf un, yn cynnwys y seren Ethan P-Flynn ac Ava Gore, mae Silver Gore yn creu pop macsimalaidd sy’n chwarae gyda dylanwad dawns y nawdegau mewn ffordd newydd a chyffrous. Mae llais Ava Gore yn Björk-aidd ei naws, wrth iddi sôn am anawsterau ei bywyd serch yn Llundain fodern, gyda phrofiad offerynnol dwys Ethan P Flynn yn ei chefnogi. Mae pobl yn methu stopio siarad am y band yma, yn enwedig gyda’u EP newydd ddisglair ‘Dogs in Heaven’ yn cael sgoriau uchel gan y beirniaid.
