Shelf Lives
Mae Shelf Lives yn creu sŵn sy’n rhoi’r byd yn ei le gyda’u brand arbennig o electro-pync. Mae eithafion cymdeithasol fel cyfoeth, tlodi, diwylliant poblogaidd a gwladgarwch yn cael eu cyfleu, nid trwy delyneg gonest, ond yn eithafion eu sain. Mae’r gerddoriaeth yn fachog, weithiau’n slei, a heb os yn stwrllyd; gallwch chi bron a deimlo’r chwys ar y nenfwd a sŵn caniau wedi’u malu o dan eich traed.