
Ar ôl cyflawni cymaint yn barod, mae’n anodd cofio taw dim ond ers blwyddyn mae Shale wedi bodoli, a’u hymddangosiad yn Sŵn y llynedd oedd un o’u sioeau cyntaf erioed. Mae EP newydd y criw o Gaerdydd a Chasnewydd wedi cael tipyn o ganmoliaeth, maen nhw wedi chwarae yn Green Man, ac wedi cael trac yr wythnos ar BBC 6 Music gyda’u sengl ddiweddar “Work Dog”. Er i’r cyfan ddigwydd yn gyflym iawn, mae Shale yn destament i’w llwyddiant; gan greu hits roc-indi dro ar ôl tro, a does dim golwg stopio’n fuan arnyn nhw.
