
Wedi’u hysbrydoli gan bobl fel Jamiroquai a Mike Skinner, mae’r criw yma o Ddulyn yn disgrifio’u sain fel “Ôl-Ffync”, ac mae eu llinellau bas tynn a’i gitârs twt yn eistedd o dan harmonïau lleisiol cyfoethog, gan greu sain grŵfi. Mae eu set fyw yn cynnwys llawer o hynny, gyda chysylltiad trawiadol â’r dorf yn creu presenoldeb gwych ar y llwyfan, felly tanlinellwch enw’r band yma os ydych chi am gael amser da.
