
Yn ddim llai nag eicon ddiwylliannol, mae Sage Todz ar flaen y gâd ym myd dril Cymraeg, gyda’i sengl ‘Rownd a Rownd’ yn cael ei chwarae ledled y wlad ac yn denu llwyth o sylw ar-lein, gan arwain hefyd at gydweithio gyda phobl fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Mae’n annog artistiaid dwyieithog ledled y byd, ac mae ei gymysgedd eclectig o Gymraeg a Saesneg yn ei helpu i ganfod digrifwch mewn geiriau, gyda chyflwyniad sydd mor ddiwylliannol gywir â phosib. Mae Todz yn seren ac yn gwybod sut i roi sioe sy’n werth bod yn y rhes flaen ar ei chyfer.
