
Pedwarawd egnïol sy’n croesi genres o Fanceinion yw Pyncher, sydd wedi sefydlu’u hunain yn gyflym fel un o fandiau mwyaf trydanol Prydain. Maen nhw wedi rhyddhau EP newydd yn ddiweddar o’r enw ‘I Really Mean It This Time’. Wedi’i chanmol am ei disgleirdeb roc garej anniben, dydy’r dwyster byth yn peidio.
Allwn ni ddim aros i glywed y pedwarawd yn dod â’r caneuon ecsentrig gogoneddus yma’n fyw nes ymlaen eleni. Dyma un o’r bandiau mwyaf cyffrous yn sîn fywiog Manceinion ar hyn o bryd, felly cofiwch eu dal nhw yn Sŵn.
I’r rhai sy’n hoff o: TTSSFU, Lime Garden, Westside Cowboy
