
Band o Darlington yw Pollyfromthedirt, a gafodd fwy neu lai eu geni ddoe, gyda’u hits newydd grutiog ‘A weekend in Majorca’ a ‘There’s no such thing as England’, sy’n gwneud hwyl am ben diwylliant Prydain gan lwyddo i greu swyn Lo-Fi cŵl. Mae naws o ddirgelwch o gwmpas y rhain gyda’u cloriau albwm anorffenedig a’u natur DIY amlwg, sy’n codi llu o gwestiynau er eu tiwns anhygoel, ac felly bydd eu set yn Sŵn yn gyfle i glywed yr atebion hyderus i’r cwestiynau yma.
