
Mae Pixie McCann yn creu bydoedd breuddwydiol cysurus yn ei chaneuon. Mae’n adnabyddus am ei harddull pop stafell wely/amgen, ac mae’n defnyddio synau meddal i drafod pynciau ysgafn a thrwm, gan hyd yn oed sgwennu cân am fod â lefelau haearn isel.
Rhyddhaodd ei EP gyntaf ‘Indigo, Vibrant and New’ ym mis Mehefin, gan gyfleu “popeth ro’n i’n ei deimlo llynedd” yn ôl McCann. Mae’n aml yn creu fideos perfformio mewn coedwigoedd a lleoliadau awyr agored eraill ar ei phen ei hunan gyda pheiriant dolennu, gyda byd natur yn rhan fawr o’i gwaith.
Dewch i brofi synau arallfydol yr anhygoel Pixie McCann yn Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Florence Road, Erin LeCount, Searows
