
Painkiller yw prosiect newydd prif leisydd Buzzard Buzzard Buzzard, Tom Rees, gydag Eddie Rees ar y bas ac Ellie Strong ar y drymiau. Mae’r band yn chwarae cerddoriaeth roc swnllyd ac yn berchnogion balch ar SEAT Alhambra 2014. Tu allan i’r band, mae Tom yn gweithio fel cynhyrchydd a pheiriannydd, gyda’i waith yn cynnwys Panic Shack a The Bug Club.
Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld y band yn rhyddhau cerddoriaeth newydd. Lle bynnag fyddan nhw, mi fydd ’na anhrefn. Bydd hon yn set hynod o ddiddorol yn Sŵn.
I’r rhai sy’n hoff o: The Family Battenberg, Cyn Cwsg, Shrink
