
Mae seren Rap Lo-Fi Caerdydd yn creu traciau eneidiol sy’n sôn am gariad ifanc, am brofiadau yn y brifysgol, a hyd yn oed ei hanes yn gweithio’n llawn amser fel fferyllydd. Mae ei draciau cain wedi’u dylanwadu gan bobl fel Loyle Carner a Lause the Cat, gan esgyn tu hwnt i gonfensiynau Rap Prydeinig a gwneud troadau sy’n eich ymlacio yn y ffordd orau bosib. Mae Noah wir yn seren danddaearol sydd â llwyth o dosturi a mwy o fyth o ddawn greadigol.
