
Mae Nation Unrest yn bodoli ers saith mlynedd, ond dydy hynny ddim yn amlwg o ystyried faint o gerddoriaeth maen nhw wedi’i rhyddhau. Mae sain y grŵp cerddoriaeth corff electronig yn dal i greu argraff barhaus, serch hynny, gyda rhythmau dwfn curiadol sy’n cynnig naws pync.
Ymunodd aelod newydd, Evil Dust, â’r artistiaid o Lundain yn 2025, gan droi’r ddeuawd yn driawd, ac maen nhw’n paratoi i ddangos mwy o’r hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno i ni. Mae’r rhythmau electronig taer yma’n sicr o gael cyrff i symud ar y llawr dawnsio.
Bydd set Nation Unrest yn cynnig llond y lle o ddawnsio yng Ngŵyl Swn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Working Men’s Club, Chalk, Model/Actriz
