
Pop-trist emosiynol onest yw cerddoriaeth Nancy, sydd bellach wedi gadael Merthyr Tudful i fynd i Lundain, sy’n archwilio tynerwch cariad ifanc a’r chwyrligwgan sy’n dod gyda hynny. Mae’n dorcalonnus ar adegau, ond mae ei diniweidrwydd yn anhygoel o annwyl, ac mae’n amhosib anwybyddu ei photensial. Cofiwch wylio ei set i brofi eiliad felys o wychder lleddf.
