
Gydag un o’r lleisiau mwyaf meddal a lleddfol yn y sîn, mae cerddoriaeth grefftus ac ysgafn Naima Bock yn ffefryn gan bawb sy’n cael cyfle i weld ei set fyw hyfryd, ar ei phen ei hunan neu gyda band llawn. Mae hi wedi’i dylanwadu rhywfaint gan gerddoriaeth Brasil ei hieuenctid, yn ogystal â gwerin indi mwy modern, ac roedd ‘Below A Massive Dark Land’ yn un o recordiau gorau 2024. Mae’r dagrau’n siŵr o lifo yn ystod ei set, ond mae’r rhai sydd wedi gweld Naima’n chwarae yn disgrifio ei set fel un chwyldroadol sy’n eich cludo oddi yno. Felly, dydyn ni ddim yn gor-ddweud pan fyddwn ni’n dweud efallai bydd Naima Bock yn newid eich bywyd yn Sŵn 2025.
