
Mae’r band newydd o Lundain, Mouth Ulcers, yn cynnig rhywbeth tywyll a myfyriol drwy eu harddull eu hunain o gerddoriaeth roc. Rhyddhaodd y band eu EP gyntaf ‘Silent Pictures’ ym mis Gorffennaf, ac roedd yn ddatganiad perffaith o roc goth teimladwy. Maen nhw’n tynnu ar dywyllwch clasurol ôl-bync, gan ychwanegu egni ieuenctid ffres iddo.
Mae’r gitârs yn atmosfferig, ac maen nhw’n llwyddo i gydbwyso momentwm ac awyrgylch gyda brwdfrydedd. Mae Mouth Ulcers wedi teithio ledled gwledydd Prydain a’r Iseldiroedd yn barod, gan greu argraff gyda’r estheteg effeithiol a hynod.
Dewch i deimlo’r ias gyda ni pan fyddan nhw’n chwarae yn Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: The Cure, Siouxsie & The Banshees, Echo & The Bunnymen
