
Gyda thân creadigol ar bob cam o’i phroses, mae Moonchild Sanelly’n hyrwyddo pethau’n cael eu gwneud yn ei ffordd eofn ei hunan. Wedi’i hysbrydoli gan bop dawns hypnotig a choreograffaidd y nawdegau, mae ei cherddoriaeth wedi’i gwreiddio mewn deallusrwydd a grymuso rhywiol, gan ledaenu ei neges drwy set fyw sydd yr un mor hwyl ag y mae’n deimladwy. Ei record ddiweddaraf, ‘Full Moon’, yw’r un fwyaf mentrus ganddi eto, gan lwyddo i drin pynciau sensitif a chynnal hanfod nodweddiadol yr hwyl mae hi wedi gweithio mor galed i’w greu, a bydd ei set yn Sŵn yn ddathliad addas.
