Monet
Pedwarawd o Abertawe yw Monet sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth swnllyd a dawnsiadwy. Wedi’u hysbrydoli gan artistiaid fel Pom Poko, Tropical Fuck Storm, a John Coltrane, mae Monet wedi bod yn creu argraff ym myd cerddorol De Cymru gyda’u cyfuniad unigryw o roc celf ac ôl-bync sy’n cyfuno cysyniadau cerddorol rhyfedd gyda alawon bachog, a geiriau wedi’u addurno gan eu hiwmor Abertawe. Mae Monet wedi sefydlu eu hunain fel act fyw na ellir ei cholli ac maent eisoes wedi cefnogi artistiaid nodedig fel Folly Group a Heartworms eleni. Mae eu perfformiad trydanol a’u dawn ddiymwad wedi ennill enw da iddynt fel un o artistiaid mwyaf cyffrous De Cymru. Peidiwch, da chi, a golli’r band yma y mae pawb yn sicr o wybod amdanynt yn fuan iawn.