Moin
Mae Moin yn driawd eclectig o Lundain sy’n cynnwys Tom Halstead, Joe Andrews a Valentina Magaletti. Maent yn llywio set gylchol o ddylanwadau; o roc amgen, post-punk a chelf-roc i doom metal. Mae’r canlyniad yn aml yn haniaethol ac yn gysgodol; yn uniongyrchol ond wedi’i ail-ymgynnull yn gynnil; yn frith o recordiadau a ganfuwyd a theimlad byrfyfyr diymwad wedi’i ysgogi gan offerynnau taro miniog, manwl gywir. Ni’n methu aros i’w croesawu i Sŵn.