
Mae Martin Luke Brown wedi cael blwyddyn a hanner, gyda’i ail albwm ‘Man oh Man!’ yn ei helpu i ddod yn un o artistiaid newydd mwyaf cyffrous y flwyddyn, er iddo recordio’r albwm mewn diwrnod! Ar ôl haf llawn dop yn chwarae yng ngwyliau Green Man, End of the Road a Glastonbury, a hefyd fel aelod o’r siwpyr-grŵp indi ‘FIZZ’, mae enw Martin wrthi’n ennill ei le yn y sîn indi.
