
Mae Martha Elen, gyda’i Gwerin Indi Americana Cymraeg, yn ffynnu gyda gweadau moethus yn ei sengl gyntaf ‘Canu Cloch’, a’i helpodd i gael slot yn perfformio yng Nghaffi Maes B dros yr haf. Mae Martha wrth ei bodd â sain y gitâr pedal dur, sy’n llifo drwy ei thraciau gan wneud iddyn nhw ddisgleirio. Dyma artist newydd hyfryd sydd wrthi’n canfod ei lle yn y sîn gerddoriaeth, a bydd ei pherfformiad yn Sŵn eleni yn fan cychwyn arbennig.
