
Wedi’u gwreiddio mewn dirgelwch, mae’r grŵp gitâr yma o Lundain – sy’n cynnwys aelodau o ‘Pixx’ a ‘The Magic Gang’ – yn cyfuno roc amgen Prydeinig clasurol gydag alawon benywaidd, gan greu sain adnabyddadwy ond unigryw. Heblaw am y ffaith eu bod nhw’n wych, does dim llawer o wybodaeth am Marsy, gan nad oes ganddyn nhw bresenoldeb ar-lein na cherddoriaeth ar gael. Efallai y byddai’n werth mynd lawr i weld a ydyn nhw’n bodoli o gwbl!
