
Yn un o’r enwau mwyaf poblogaidd ym myd grime, mae Manga Saint Hilare wedi adeiladu’i ddelwedd ar eiriau am ei brofiadau hynod bersonol drwy gydol ei ieuenctid, yn ogystal â sylwebaeth wleidyddol, sydd wedi arwain at gydweithio gyda phobl fel JME a Wiley yn ogystal â rhoi ei enw ar sawl Gwobr MOBO. Roedd ei EP ddiweddar ‘3 3 3 3’ yn mynd â grime ’nôl at yr asgwrn, gyda bachau cryf yn helpu i greu EP arddull rhydd drawiadol. Bydd egni’r set yma’n uwch na’r un set arall yn Sŵn eleni.
