MadMadMad
Bydd triawd electronig ôl-pync Llundain, MADMADMAD, yn dod a’u hynni llosgadwy yn Sŵn eleni. Gan dynnu ysbrydoliaeth o synau no wave, post-punk, a disgo, mae eu gwrthdrawiad di-ofn o genres wedi’i baratoi’n gelfydd i’ch arwain yn uniongyrchol i’r llawr dawnsio. Ar ôl eu halbwm ‘Proper Music’ yn 2019, cyhoeddodd MADMADMAD ‘More More More’, albwm ryfeddol ac ychydig yn wyllt. Wedi’i recordio yn eu labordy arbrofol, mae’r traciau’n diferu llinellau bas dawnsiadwy, riffs gitâr pigog, a drymiau egnïol. Mae MADMADMAD yn gyrru eu dylanwadau i ddimensiwn newydd, gan gynnig sain unigryw sy’n ceisio gwaredigaeth o’r amseroedd anhrefnus a rhyfedd yr ydym yn byw ynddynt ar hyn o bryd.