
Mae Lucy Gooch wedi’i hysbrydoli gan y tawelwch oedd o’i chwmpas yn ystod ei phlentyndod yn Norfolk, gan arwain at greu traciau amgylchynol atmosfferig sydd wedi’u hysbrydoli gan gerddorion fel Kate Bush a Cate Le Bon. Yn naturiol i’r bôn, mae Lucy’n cyrraedd lefel gadarn o heddwch rhyfeddol yn ei halbwm gyntaf ‘Desert Window’ sy’n llifo trwy ei bodolaeth mewn deugain munud tynn. Teg dweud y bydd set Lucy yn Sŵn yn un drawsnewidiol ac esgynnol.
