
Gan ffurfio yn Stockholm tua diwedd y Cyfnod Clo, mae Lovers Skit yn act bop sydd wedi’i hysbrydoli gan sîn rêf y nawdegau, gan greu cerddoriaeth sydd ag egni heintus sy’n cynnig llond y lle o hwyl. Mae’r hyder sydd gan y prif leisydd Nathalia Aránguiz yn ei llais yn helpu i fynd â’u cerddoriaeth i’r lefel nesaf. Mae hyn oll i’w glywed ar eu sengl ddiweddar ‘Bad Lyfe’, sy’n mynd â’u sain i lefel uwch a mwy trendi nag erioed. Mae Lovers Skit yn sicr o gynnig amser gwerth chweil.
