
Mae Louis O’Hara y gwybod ambell beth pan ddaw at fod mewn band. A dweud y gwir, mae’n meddwl iddo fod mewn tua 14 o brosiectau gwahanol! Nawr, gyda’i waith unigol, mae Louis wedi bod yn creu cerddoriaeth werin hynod deimladwy. Gan ryddhau ei albwm gyntaf ‘A Peaceful Kind Of Fun’ ym mis Tachwedd 2025 drwy Libertino, mae’n canu yn Gymraeg a Saesneg.
Mae ei waith weithiau’n dwyn i gof Bill Callahan, a phan mae’r band llawn yn chwarae hefyd, mae ei berfformiadau byw yn dod yn Louis O’Hara and His Burley Chassis. A byddan nhw’n llond eu hwyliau eleni yng Ngŵyl Swn.
Peidiwch â methu Louis O’Hara sy’n dod â’r fersiwn lawnaf o’i sain i’r ŵyl eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Gorky’s Zygotic Mynci, Cate Le Bon, Bill Callahan
