
Mae brand Lo Rays o fetel pop ôl-apocalyptaidd yn ffrwydo’n fyw ar unrhyw eiliad. Mae estheteg hynod cŵl y band yn cynnwys elfennau ffuglen wyddonol, a phan maen nhw’n dewis troi at ychydig o rêf, mae’n teimlo fel pe bai mil o laserau bach yn ymosod arnoch.
Wedi’u ffurfio yn 2018 ar ôl i’r gantores o’r Ffindir Laura Takala symud i Glasgow, mae’r band wedi sefydlu sain unigryw yn gyflym. Maen nhw wedi cael eu henwebu ar gyfer ‘Act y Flwyddyn’ gan BBC Introducing yr Alban, ac ym mis Mawrth fe wnaethon nhw ryddhau EP newydd o’r enw ‘Re: Birth Sequence’, a oedd yn dangos eu sain aeddfed sy’n plygu genres.
Gŵyl Sŵn eleni fydd eu tro cyntaf yng Nghymru, ac allwn ni ddim aros i rêfio gyda nhw.
I’r rhai sy’n hoff o: Biffy Clyro, Cassyette, Nova Twins
