
Mae’r band o bedwar o Brighton eisoes wedi rhyddhau albwm cyntaf clodwiw “One More Thing” ac wedi bod ar deithiau a werthodd bob tocyn ledled Prydain, Ewrop a’r UDA, ond eto maen nhw’n dal i gigio gyda phenderfyniad ffyrnig i ddominyddu’r byd. Mae “I Want To Be You” gydag un o’r caneuon mwyaf gafaelgar y byddwch chi’n ei chlywed, sy’n annog y dorf i ganu ac yn sicr o roi dos ffres o lawenydd i chi os oes angen. Mae’r merched yma’n ddigon cyfarwydd â Sŵn ar ôl chwarae yn y Tramshed yn 2022, a byddan nhw’n dychwelyd i Gaerdydd unwaith eto i gynnig llond y lle o hwyl; dim buzzkills plis!
