
Ar ôl cyrraedd y pump uchaf yng nghystadleuaeth Green Man Rising y llynedd, mae ladylike ymhlith y bandiau mwyaf cyffrous sy’n dod o Brighton ar hyn o bryd, gan uno dylanwad gan Angel Olsen a Big Thief i greu cerddoriaeth indi hypnotig a phêr. Mae eu senglau diweddar ‘Horse’s Mouth’ a ‘Southbound’ yn cyffwrdd â’r galon, wrth drafod eu profiadau yn byw yn Brighton a’r teimladau diollwng o gael eich gorweithio, mewn ffordd hyfryd a chwaethus. Wedi’u hadeiladu ar sawl cyferbyniad, mae ladylike yn enw cyffrous i roi cylch o’i gwmpas ar eich rhaglen Sŵn.
