
Mae’r cerddor enaid James Emmanuel, a anwyd yn Nigeria ond sy’n byw yng Nghaeredin, yn meddu ar lais a allai ysbrydoli unrhyw stafell. Ar ôl canfod ei hoffter o ganu ar ôl i’w dad ei annog i ymuno â chôr gospel, mae wedi parhau i ganu byth ers hynny. Cerddoriaeth Marvin Gaye oedd ei gariad cerddorol cyntaf, a gallwch chi weld adleisiau o’r cyfnod hwnnw o enaid yng ngwaith Emmanuel.
Ar ôl canfod gwir deimlad o gartref ar strydoedd hyfryd Caeredin, rhyddhaodd gân am y ddinas dan yr enw ‘Nothing But Love For This City’. Mae hi i’w chlywed ar ei EP ddiweddar ‘Good Man’, a ddaeth allan ddiwedd mis Mehefin.
Byddwn ni’n cael ein syfrdanu gan lais esgynnol James Emmanuel yn Sŵn eleni.
I’r rhai sy’n hoff o: Brooke Combe, Sam Pounds, Leon Bridges
